Os ydych chi'n bwriadu mynd ar eich beic i fwynhau'r rhwydwaith Llwybrau Bae Abertawe newydd gyda'i deithiau hardd a defnyddiol, dyma rywbeth i'ch atgoffa am yr arwyddion y byddwch yn eu gweld fydd yn help i'ch arwain ar eich taith.
Mae arwyddion fel yr un yma, isod, yn marcio Llwybr Beicio Bae Abertawe, yn dangos y cyrchfannau rydych chi'n gallu eu cyrraedd ar y llwybr hwn, i ba gyfeiriad y mae'n rhaid i chi deithio i'w cyrraedd nhw, a sawl milltir y mae angen i chi eu teithio i gyrraedd.

Felly mae'r arwydd yn dangos eich bod yn teithio ar Lwybr Rhif 4, fel sydd wedi'i nodi yn y blwch sgwâr, a'i fod yn rhan o rwydwaith Llwybrau Beicio Bae Abertawe (logo olwyn beic coch) yn ogystal â'r Llwybr Celtaidd (logo gwyrdd a gwyn) rhwydwaith ehangach o lwybrau sy'n mynd ar hyd a lled De Cymru.
Fel rhan o'r cynllun Llwybrau Bae Abertawe rydym eisiau annog cymaint o bobl â phosibl i fynd allan ar eu beic neu ar droed i fwynhau'r 118km o lwybrau hardd a diddorol sydd ar ein stepen drws, ond mae hi'n bwysig bod hyn yn digwydd mor ddiogel â phosibl.
Felly bydd angen i chi fod yn effro i sylwi ar yr arwyddion isod hefyd, sy'n rhoi gwybod i ddefnyddwyr y llwybrau beth yw'r prif gyfyngiadau y mae'n rhaid ufuddhau iddyn nhw. Mae'r arwyddion isod yn dynodi:
