Beicio.
Dewch o hyd i'ch llwybr cyflymaf
Mae teithio i'r gwaith wedi dod yn llawer mwy cyfleus!
Dyma sut mae'r olwynion yn troi!
Mae mynd yn ôl ar eich beic yn hawdd! P'un a ydych chi heb fod ar eich beic ers blynyddoedd, neu erioed wedi beicio, neu fel arfer yn beicio am fwynhad, mae'n hawdd teithio i'r gwaith gyda Llwybrau Bae Abertawe.
Os nad yw'n bell, heb gar sy'n well.
- Port Tennant i Gwmbwrla 19 munud
- Llansamlet i Ganol Dinas Abertawe 23 munud
- Sgeti i Barc Menter Abertawe 35 munud
- Mwmbwls i Fforestfach 48 munud
- Treboeth i Barc Diwydiannol Winch Wen 19 munud
- Ardal y Copr i Brifysgol Abertawe 23 munud
Rhwydwaith Llwybrau Bae Abertawe
Mae Rhwydwaith Llwybrau Bae Abertawe yn cynnwys dros 118km o lwybrau beicio ar y ffordd ac oddi ar y ffordd ar gyfer beicwyr o bob gallu gyda llwybrau newydd yn cael eu hychwanegu drwy'r amser. Mae'r rhwydwaith wedi defnyddio lliwiau i ddynodi llwybrau teithio cyfeillgar i feiciau i helpu pobl i fynd o gwmpas Abertawe ar feic.
Dilyn arwyddion beicio
Bydd deall yr arwyddion ar y llwybrau beicio yn eich helpu i gyrraedd pen eich taith yn ddiogel. Dyma rai arwyddion y gallech eu gweld ar eich taith a beth yw eu hystyr.


Mae reidio beiciau pedal wedi ei wahardd

Mae'r llwybr yma ar gyfer beiciau pedal yn unig

Mae'r llwybr yma ar gyfer beiciau pedal a cherddwyr yn unig

Llwybrau ar wahân ar gyfer cerddwyr a beiciau pedal

Byddwch yn ddiogel
- Gwisgwch ddillad a fydd yn eich arbed rhag niwed
- Sicrhewch fod pobl eraill yn gallu eich gweld
- Gwiriwch eich brêcs, eich teiars a’ch goleuadau

Byddwch yn wyliadwrus
- Byddwch yn effro i beryglon posibl
- Byddwch yn barod i arafu neu stopio
- Peidiwch â goddiweddyd yn ddiangen
- Sicrhewch fod pellter diogel rhyngoch chi a phobl eraill

Byddwch yn ystyriol
- Cadwch i’r chwith
- Peidiwch â goddiweddyd yn ddiangen
- Byddwch yn ymwybodol o ddefnyddwyr eraill
- Ildiwch i gerddwyr
- Defnyddiwch eich cloch
- Defnyddiwch ein llwybrau gan ystyried pawb arall sy’n eu defnyddio.
Gofalu am eich beic - mae gofalu am eich beic yn hawdd!
Gofalwch bod digon o aer y eich teiars a gwnewch yn siŵr fod yr olwynion yn troi yn ddidrafferth.
Os nad ydyn nhw'n troi'n hawdd, edrychwch i weld ydy'r brêcs neu'r giardiau olwynion yn rhwbio yn eu herbyn.
Gofalwch am y brêcs - dyma ran bwysicaf y beic!
Er mwyn gwirio'r brêc blaen, gwthiwch y beic yn ei flaen a defnyddio'r lifer (yr un ar y dde fel arfer). Dylai'r beic stopio. I wirio'r brêc ôl, gwnewch yr un peth ond gwthiwch y beic am yn ôl. Os nad ydych chi'n siŵr, ewch â'r beic i gael ei wirio.
Gyda'r tsiaen, y ceblau a'r cogiau
edrychwch am geblau wedi treulio, irwch y tsiaen a gwiriwch nad yw'r dolenni a'r sedd yn symud.
Diogelwch
- Clowch ffrâm eich beic yn erbyn rhywbeth solet a defnyddiwch glo beic da. Mae'n well defnyddio dau fath gwahanol o gloeon (e.e. clo-D a chebl).
- Ewch ag ategolion gyda chi.
- Nodwch wneuthuriad eich beic, y model a rhif y ffrâm. Tynnwch lun o'ch hun a'ch beic i brofi perchenogaeth.
- Ystyriwch yswiriant.
- Cofrestrwch eich beic er mwyn i'r heddlu allu cysylltu â chi os caiff y beic ei ddwyn. Mae manylion darparwyr cofrestru beiciau ar gael fan hyn. Dysgu rhagor.
