Cyflogwyr.
Dewch o hyd i'ch llwybr cyflymaf
Mae teithio i'r gwaith wedi dod yn llawer mwy cyfleus!
Teithio a theimlo'n dda
Mae'n llesol i bob un ohonom ddod yn fwy ffit ac iach ac i helpu creu amgylcheddau glanach a mwy diogel. Ac mae gweithlu mwy ffit yn weithlu hapusach. Fel cyflogwr, mae yna nifer o bethau y gallwch eu gwneud i helpu - y rhan fwyaf ohonyn nhw'n bethau syml a rhad.
Rydyn ni'n gobeithio y bydd cyflogwyr yn Abertawe yn hyrwyddo Llwybrau Bae Abertawe o fewn y gweithle ac yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi cydweithwyr i ymgymryd â'u teithiau byr ar droed neu ar feic.
Why get involved?
Manteision i weithwyr
- Gweithlu mwy ffit, iachach a mwy cynhyrchiol.
- Llai o bwysau ar lefydd parcio ceir.
- Lleihad yn eich ôl troed carbon ar gyfer eich cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol (CSR).
- Cyfrannu at safonau ansawdd aer Abertawe.
Manteision i weithwyr
- Arbedwch arian ar betrol a pharcio drud.
- Arbedwch amser ar bob taith drwy osgoi ciwiau traffig.
- Teimlwch yn fwy ffit, yn iachach ac yn hapusach.
- Gwnewch y strydoedd lle rydych chi'n byw ac yn gweithio yn dawelach ac yn fwy diogel.
Sut i gymryd rhan
Lawrlwythwch becyn cymorth Llwybrau Bae Abertawe i weld sut y gallwch annog a hyrwyddo mwy o bobl i gerdded neu feicio i'r gwaith ar eu teithiau byr yn ystod eu diwrnod gwaith.
Mae'r pecyn cymorth yn cynnwys posteri a thaflenni y gallwch eu defnyddio, yn ogystal ag awgrymiadau defnyddiol.


Beicio i'r Gwaith
Mae Beicio i'r Gwaith yn fenter gan y Llywodraeth a gyflwynwyd ym 1999 i annog pobl i feicio fel ffordd o fynd i'r gwaith. Gall pob cyflogwr yn y sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector drefnu cynllun beicio i'r gwaith a gall pob gweithiwr logi beic a chyfarpar diogelwch drwy'r cynllun hwn.
Mae'n golygu y gall gweithwyr arbed hyd at 32% ar bris beic newydd ac ategolion os ydyn nhw'n cael eu defnyddio'n bennaf ar gyfer teithio i'r gwaith.
Mae'n syml iawn: Bydd y gweithiwr yn dewis beic ac ategolion ac rydych chi'n adfer cost y beic drwy aberth cyflog y gweithiwr (arian sy'n cael ei dynnu bob mis o gyflog gros am hyd y Cyfnod Llogi). Mae'r gweithiwr yn gwasgaru'r gost ac yn gwneud arbedion ar ei gyfraniadau treth; 32% ar gyfer rhai sy'n talu treth ar y gyfradd sylfaenol a 42% i'r rhai sy'n talu treth ar y gyfradd uwch. Fel cyflogwr, byddwch yn gwneud arbediad o 13.8% drwy Gyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Mae'n gyflym ac yn hawdd ei weinyddu. Mae llawer o gwmnïau sydd ddim yn codi am reoli cynllun Beicio i'r Gwaith, ond byddan nhw'n darparu cefnogaeth lawn i weinyddwyr cynlluniau.
Lawrlwythwch becyn cymorth Llwybrau Bae Abertawe nawr i gael gwybod rhagor.